Mae disgwyl i berchennog siop o Lanybydder, Sir Gaerfyrddin, gael ei anrhydeddu gan Heddlu Dyfed-Powys yr wythnos hon ar ôl iddo achub dynes oedrannus a yrrodd ei char i mewn i lyn tua blwyddyn yn ôl.
Roedd Arwel Morgan, perchennog Siop y Bont, yn gweithio ar y fferm deuluol pan gafodd wybod gan ei dad, David, a’i frawd, Emyr, fod car wedi’i yrru oddi ar ffordd yr A485 rhwng Llanybydder a Phencarreg i mewn i lyn ar dir cyfagos.
Ar ôl dod o hyd i ddynes yn sownd yn y car, bu’n rhaid i Arwel Morgan, gyda help llaw ei dad, ei frawd a’r postmon lleol, Paul Jones, roi cymorth cyntaf iddi a sicrhau ei bod hi’n anadlu eto.
Fe wnaethon nhw wedyn ofalu amdani hyd nes i’r gwasanaethau brys gyrraedd y safle yn ddiweddarach.
Anrhydeddu
Bydd Arwel Morgan yn derbyn un o wobrau cymeradwyaethau’r Prif Gwnstabl mewn seremoni ym mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yn Llangynnwr nos Wener (Ionawr 25).
Dywed iddo gael “sioc” pan glywodd ei fod am dderbyn gwobr, ond ychwanega mai’r hyn sy’n bwysig yw bod y ddynes a gafodd ei hachub yn fyw ac yn iach erbyn hyn.
“Mae’n cadw in touch gyda ni,” meddai Arwel Morgan. “Mae’n hala cardie adeg pen-blwydd a Nadolig, ac rydyn ni wedi bod yn cael chats gyda’n gilydd.
“Dydw i ddim ishe lot o fuss, ond mae’n neis ein bod ni wedi gallu ei safio hi.”
Dyma Arwel Morgan, yn ei eiriau ei hun, yn disgrifio’r hyn a ddigwyddodd wedi’r ddamwain…