Fe fydd canolfan wib yn cael ei sefydlu yng Nghastell-nedd Port Talbot ddydd Sadwrn (Ionawr 26) er mwyn hybu’r Gymraeg yn yr ardal.
Bydd y ganolfan, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Siopa Aberafan, yn cynnwys arddangosfa o gyfres ddrama ddwyieithog S4C, Bang, a gafodd ei ffilmio yn yr ardal, a gwybodaeth am ddigwyddiadau Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot a chyrff eraill yr ardal.
Bydd y ganolfan ar agor rhwng 10yb a 4yp, ac fe fydd cyfle i gyfarfod â staff Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe, sy’n rheoli’r prosiect sydd wedi derbyn grant arloesi gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
‘Amlygu a datblygu cyfleoedd’
Meddai Iestyn Llwyd, rheolwr busnes a datblygiad strategol Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe: “Prif fwriad y ganolfan hon yw amlygu a datblygu cyfleoedd i drigolion Port Talbot a’r cyffiniau i ddysgu Cymraeg.
“Byddwn yn gobeithio cyflawni hynny mewn modd gweledol, agored a chroesawgar, gan gynnig blas ar y ddarpariaeth a gynigwn, y gwahanol fathau o gyrsiau a’r adnoddau sydd ar gael, ac i amlygu beth yw rhai o fanteision dysgu’r iaith fel oedolion: boed nhw’n rhieni ifanc neu’n ddarpar rieni; yn bobl sydd â diddordeb neu falchder yn eu treftadaeth Gymreig; neu’n bobl sydd am gyflawni her bersonol drwy ddysgu neu wella eu Cymraeg.
“Ein bwriad yw bod yma ar eu cyfer i’w cynghori a’u cefnogi cymaint ag y gallwn. Mae’r prosiect hefyd yn cynnig cyfle i gydweithio gyda phartneriaid eraill, ac yn fodd o dynnu sylw at waith da yr ystod o sefydliadau a mudiadau sydd hefyd yn gweithio yn lleol er budd y Gymraeg ac sydd hefyd yn rhan o rwydwaith o gefnogaeth i ddysgwyr.”
‘Presenoldeb gweledol’
“Mae cael presenoldeb gweledol mewn cymunedau ledled Cymru yn flaenoriaeth i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod pobl yn dod i wybod am y cyfleoedd amrywiol sydd ar gael i ddysgu ac ymarfer y Gymraeg,” meddai Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
“Mae’r ganolfan wib newydd yn enghraifft wych o hynny, a dymunwn yn dda i griw Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe gyda’r fenter newydd hon.”
Meddai awdur y gyfres Bang, Roger Williams: “Mae’r tîm a greodd y gyfres deledu Bang ar gyfer S4C yn falch iawn o gefnogi’r fenter hon.
“Roedd y gymuned leol yn hynod o garedig tra i ni ymgartrefu yno er mwyn ffilmio’r gyfres ac roedd diddordeb mawr yn y rhaglen a’r iaith Gymraeg.
“Mae’n gyffrous tu hwnt i feddwl bydd Bang yn ysbrydoli pobl i roi cynnig ar ddysgu Cymraeg.”