Mae stormydd tywod, cenllysg a glaw trwm wedi taro rhannau o’r Dwyrain Canol.
Mae hi’n anodd iawn gweld yn bell yn Cairo, prifddinas yr Aifft, wrth i gwmwl o lwch oren lenwi’r awyr. Mae cerddwyr ar y strydoedd yn gorchuddio’u hwynebau rhag y gwynt.
Mae lwch yn chwipio trwy Israel a’r Lan Orllewinol hefyd, gyda chenllysg yn ardal Tel Aviv. Mae pobol tywydd yn darogan bod disgwyl eira yn Jerwsalem.
Yn Libya, mae glaw, gwynt a thywydd oer yn golygu bod mwy o alw am drydan, ac mae’r grid dan bwysau.