Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, yn dweud fod “eto amser” i drafod y ffordd y bydd Prydain yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae hefyd yn dweud ei bod hi’n “gofidio” fod Aelodau Seneddol wedi dewis gwrthwynebu cytundeb Theresa May mewn pleidlais yn San Steffan neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 15) pan drechwyd y Prif Weinidog o 432-202 o bleidleisiau.
Wrth ateb cwestiynau newyddiadurwyr yn Berlin, mae’n dweud hefyd y bydd Ewrop “siŵr iawn” yn gwneud popeth o fewn ei allu er mwyn dod o hyd i ddatrysiad trefnus i’r sefyllfa.
“Ond, wedi dweud hynny,” meddai wedyn, “rydyn ni hefyd yn barod ar gyfer sefyllfa lle nad oes datrydiad trefnus.”