Mae teulu dyn 73 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad yn y Maerdy wedi talu teyrnged i “ŵr, tad a thadcu cariadus”.
Cafodd Malcolm Morgan ei ladd ddydd Sul (Ionawr 13) ar ôl i’w fan Ford Transit daro yn erbyn fan Iveco Daily oedd wedi cael ei pharcio ar ymyl y ffordd.
Mae ei deulu’n derbyn cefnogaeth gan yr heddlu.
“Roedd Malcolm yn ŵr, tad a thadcu cariadus,” meddai ei deulu wrth dalu teyrnged iddo. Fe fu’n biler y gymuned erioed, ac roedd e’n cael ei garu gan gynifer o bobol.
“Roedd e’n cael ei adnabod fel Popo i’r rhan fwyaf, a wnaeth e fyth dweud ‘Na’ i unrhyw beth.
“Roedd ei gariad at golomennod yn gyrru ei deulu cyfan yn wallgof – fe oedd hanner Morgan y bartneriaeth rasio colomennod ‘Newman a Morgan’ oedd yn rasio i glwb Ynyshir.
“Mae’r hyn sydd wedi digwydd wedi ein torri ni fel teulu, a byddwn yn gweld ei eisiau y tu hwnt i eiriau.”