Mae prif weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi annerch pobol y wlad er mwyn gwrthod a diystyrru cyfres o honiadau o lygredd yn ei erbyn.

Mewn cyflwyniad dramatig mae wedi dadlau y byddai cael ei dewyn i’r llys cyn yr etholiadau sy’n cael eu cynnal yn Israel ar Ebrill 9, yn “anghyfiawn”.

Mae’n dweud fod yr awdurdodau wedi gwrthod yr hawl iddo ymateb wyneb yn wyneb i’r rheiny sy’n gwneud yr honiadau yn ei erbyn.

“Beth maen nhw’n ei ofni?” meddai. “Beth sydd ganddyn nhw i’w guddio?”

Mae’r prif weinidog yn gwadu pob cyhuddiad yn ei erbyn, ac mae wedi addo ymladd yn ddi-ildio i wrth-brofi’r honiadau o lwgrwobrwyo.

Mae’r heddlu yn dweud, ar y llaw arall, fos yna sail a thystiolaeth ddigonol tros ddwyn cyhuddiadau.