Mae dwsinau o Aelodau Seneddol wedi ysgrifennu at Gomisiynydd yr Heddlu Metropolitan i ddatgan eu pryderon ynglyn â’r “dirywiad”  sydd wedi bod yn safonau diogelwch y tu allan i’r Senedd yn San Steffan.

Daw’r llythyr wrth i’r heddlu ymchwilio i ddigwyddiad ar College Green ddoe (dydd Llun, Ionawr 7) pan gafodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Anna Soubry, ei galw yn “Natsi” tra’r oedd yn rhoi cyfweliad yn fyw ar y teledu.

Mae o leiaf 55 o Aelodau Seneddol wedi arwyddo’r llythyr at Cressida Dick yn beirniadu’r “diffyg cydgysylltu” yn ymateb yr heddlu i’r bygythion i “Aelodau Seneddol, newyddiadurwyr, ymgyrchwyr ac aelodau o’r cyhoedd”.

Yn y cyfamser, mae tensiynau’n cynyddu o fewn i’r Senedd wrth bleidlais fawr ar gynllun Brexit Theresa May agosáu.

Wythnos yn union cyn y bleidlais fawr, bydd newidiadau yn cael eu cyflwyno i’r mesur cyllid sy’n dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin heddiw mewn ymgais i geisio atal Brexit dim cytundeb.

Mae’r cynnig o newid wedi cael ei gyflwyno ar y cyd gan yr Aelod Seneddol Llafur, Yvette Cooper, a’r cyn-Ysgrifennydd Addysg, Nicky Morgan, ac fe fydd yn atal rhyddid y Llywodraeth i newid trethi mewn cyswllt â Brexit heb ganiatâd y Senedd.

Mae’r gweinidog busnes, Richard Harrington, hefyd wedi dweud y byddai’n ymddiswyddo o‘r Llywodraeth pe bai angen er mwyn ceisio atal sefyllfa dim cytundeb.