Mae llywodraeth Gabon wedi dal gafael ar reolaeth o’r wlad, wedi i’r fyddin geisio cynnal coup ac i ddau o’r cynllwynwr gael eu lladd.

Mae pump swyddog wedi’u harestio wedi iddyn nhw gymryd drosodd gorsaf radio yn ystod y cynllwyn.

Ond fe lwyddodd yr awdurdodau i gael rheolaeth yn ôl yn y brifddinas, Libreville, yn fuan wedyn.

Fe gafodd dau o arweinwyr y coup d’etat eu lladd gan luoedd diogelwch. Roedden nhw hefyd wedi.cymryd rhai pobol yn wystlon, ond mae’r rheiny wedi cael eu rhyddhau.

Mae yna filwyr hefyd wedi’u harestio, ac mae llywodraeth yr arlywydd, Ali Bongo, mewn rheolaeth.

Mae cyrffiw mewn grym yn Libreville, ac mae mynediad at y rhyngrwyd a’r we wedi’i gyfyngu.

Mae gwledydd Undeb Affrica wedi datgan eu cefnogaeth lwyr i lywodraeth Gabon.