Mae tri o bobl wedi cael eu lladd a phedwar wedi eu hanafu mewn achos o saethu mewn lle bowlio yn ne California neithiwr.

Yn fuan wedi hanner nos yn eu hamser nhw, cafodd llawer o ergydion eu tanio yn y ganolfan yn Torrance, tua 20 milltir o Los Angeles.

Mae’r heddlu’n dal i ymchwilio i’r digwyddiad ac wedi rhybuddio’r cyhoedd i gadw draw.