Mae dyn 31 oed wedi cael ei saethu’n farw gan blismyn arfog mewn cyrch yn Coventry. Cafodd ei enwi’n ddiweddarach fel Sean Fitzgerald.

Cafodd dau ddyn arall eu harestio yn y cyrch neithiwr.

Roedd y plismyn yn gweithredu gwarant mewn tŷ ar Burnaby Road yn y ddinas am 6.20pm, yn ôl heddlu West Midlands.

Yn ôl adroddiadau gan bobl leol, roedd mwy na 17 o geir heddlu’n cymryd rhan y cyrch.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi cadarnhau eu bod nhw wedi agor ymchwiliad i’r digwyddiad.