Mae’r awdurdodau yng ngwled Thai wedi dechrau symud pobol o’u cartrefi cyn i stormydd trofannol daro de’r wlad.

A hithau’n benllanw ar y tymor twristaidd yno, mae glaw eisoes yn syrthio yn y Gwlff, ac mae’r awdurdodau wedi cyhoeddi rhybudd am wyntoedd mawr a moroedd gwyllt yn y 16 talaith pan fydd Storm Pabuk yn cyrraedd ddydd Gwener (Rhagfyr 4).

Mae ofnau y bydd y storm hon y waethaf i daro Gwlad Thai ers 1989, pan laddodd Teiffŵn Gay fwy na 400 o bobol.

Yn 1962, fe laddodd storm drofannol aral fwy na 900 o bobol yn ne’r wlad.