Mae’r dynion sydd wedi eu cyhuddo o ladd y newyddiadurwr Jamal Khashoggi wedi ymddangos yn eu gwrandawiad llys cyntaf, yn ôl cyfryngau Sawdi Arabia.

Mae adroddiadau’n awgrymu bod pump o’r dynion yn wynebu’r gosb eithaf. Dyw enwau’r dyion ddim wedi’u datgelu.

Fe gafodd Jamal Khashoggi, colofnydd i The Washington Post, ei ladd ar Hydref 2, 2018 yn llysgenhadaeth Sawdi Arabia yn Istanbwl, Twrci.

Roedd y newyddiadurwr wedi ysgrifennu erthyglau oedd yn feirniadol o Mohammed bin Salman, Tywysog Coronog pwerus yn Sawdi Arabia.

Ar y dechrau fe wadodd Sawdi Arabia bod Jamal Khashoggi wedi cael ei ladd, ond o fewn ychydig wythnosau, roedd y wlad yn cydnabod fod y farwolaeth yn un amheus.

Nid yw corff Jamal Khashoggi wedi cael ei ddarganfod. Y gred ydi iddo gael ei dorri yn ddarnau a’i guddio.