Mae llysgennad dros dro Gogledd Corea i’r Eidal, Jo Song Gil, ynghyd a’i wraig, wedi bod yn cuddio ers mis Tachwedd, meddai asiantaeth ysbïo De Corea.

Dywedodd Aelod o Senedd De Corea, Kim Min-Ki, bod swyddog o Wasanaeth Gwybodaeth Genedlaethol Seoul (NIS) wedi rhannu’r wybodaeth mewn briff preifat i wleidyddion, gan honni nad yw’r gwasanaeth wedi clywed gan Jo Song Gil ers amser.

Dywed y gwasanaeth hefyd bod adroddiadau gan gyfryngau De Corea – sydd ddim yn bosib eu cadarnhau ar hyn bryd – ond sy’n honni bod Jo Song Gil o dan warchodaeth llywodraeth Yr Eidal wrth geisio cael lloches yn y Gorllewin a gadael Gogledd Corea.

Mae Gogledd Corea yn hanesyddol yn hynod o sensitif ynglyn â phobol sy’n troi côt, yn enwedig ymhlith yr elit diplomyddol. Maen nhw’n aml yn mynnu mai cynllwynio gan Dde Corea neu’r Unol Daleithiau sydd y tu ôl i achosion felly.

Nid yw Gogledd Corea wedi gwneud unrhyw sylwa am Jo Song Gil eto.