Mae nifer y bobol sydd wedi marw o ganlyniad i ffrwydrad nwy mewn adeilad deg llawr yn Rwsia wedi codi i 37.

Cafodd mwy o gyrff eu darganfod wrth i’r rwbel barhau i gael ei archwilio dridiau wedi’r digwyddiad ddydd Llun (Rhagfyr 31).

Mae swyddog o’r weinidogaeth argyfwng nad yw pedwar oedd yn byw yn yr adeilad dal heb eu darganfod yn yr adeilad yn ninas Magnitogorsk.

Roedd y ffrwydrad wedi ei achosi gan nwy yn gollwng o fewn yr adeilad.