Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw’r ddynes a gafodd ei chanfod yn farw yn ardal Llangywer ger Y Bala ar ddiwrnod cyntaf 2019 (dydd Mawrth, Ionawr 1).

O ardal Penbedw ar Lannau Mersi yr oedd Hollie Sheridan-Connis, 24 oed

Roedd yr heddlu wedi cael eu galw i gyfeiriad ar lannau Llyn Tegid am 5.30yb.

Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad tra mae’r llu yn disgwyl canlyniadau tocsicoleg yn dilyn archwiliad post mortem.

Mae dyn 31 oed a fu’n cynorthwyo’r heddlu, oedd hefyd o Lannau Mersi, wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.