Mae gweinyddwyr dros-dro wedi’u galw i mewn i arwain un o fanciau mwya’r Eidal allan o drafferthion ariannol.

Fe ddaw’r penderfyniad i apwyntio gweinyddwyr i helpu Carige gan Fanc Canolog Ewrop, sy’n rheoli banciau parth yr ewro.

Mae rhan fwya’ o aelodau bwrdd y banc wedi ymddiswyddo wedi iddo fethu mewn ymgais i godi arian cyfalaf.

Mae banc Carige yn gweithredu yn ninas borthladd Genoa, ac roedd wedi ceisio sicrhau cefnogaeth ei gyfranddalwyr i godi 400 miliwn ewro (£360m) er mwyn sadio’r busnes.

Mae’r gweinyddwyr dros-dro yn cynnwys cadeirydd y banc, Pietro Modiano ynghyd â’r prif weithredwr, Fabio Innocenzi.

Mae yna chwech o fanciau wedi mynd i’r wal yn yr Eidal yn ddiweddar, a’r bwriad yn achos Carige yw osgoi hynny rhag digwydd.