Mae’r awdurdodau yn Tecsas yn chwilio am yrrwr a daniodd ei wn i mewn i gar yr oedd teulu’n teithio ynddo, gan ladd merch fach 7 oed ac anafu ei mam.

Mae’r heddlu wedi rhyddhau fideo cylch cyfyng o gerbyd pic-yp coch yr oedd y saethwr yn teithio ynddo yn ninas Houston.

Does yna neb yn fodlon damcaniaethu ynglŷn â pham y byddai neb eisiau niweidio’r ferch fach, Jazmine Barnes, tair o’i chwiorydd a’i mam. Y gred ydi fod yr ymosodiad yn un hollol ddigymell.

Mae mam Jazmine Barnes wedi cael ei saethu yn ei braich, ac mae un o’i chwiorydd wedi’i hanafu gan ddarnau o wydr ffenest y car.