Mae dwy ddynes wedi mynd i mewn i deml Hindwaidd fwya’ India – a hynny er bod gwragedd rhwng 10 a 50 wedi’u gwahardd o’r fangre,

Mae’r peth wedi achosi protestiadau mawr yn nhalaith Kerala yn ne’r wlad.

Ym  mis Medi y llynedd, fe gododd y Goruchaf Lys y gwaharddiad ar fenywod rhag addoli yn nheml Sabarimala – gwaharddiad a ddaeth i rym yn reit anffurfiol ar y dechrau, ond a gafodd ei wneud yn gyfraith yn 1972.

Ond er bod y Goruchaf Lys wedi cyhoeddi ei benderfyniad yn glir, roedd protestwyr a hyd yn oed offeriaid Hindwaidd yn arfer gwahardd mynediad i wragedd a oedd yn cael eu hystyried o fewn yr oed cael misglwyf.

Mae’r ddwy ddynes ddiweddaraf hyn ill dwy yn eu 40au, ac fe aethon nhw i mewn i’r deml yn gynnar heddiw (fore Mercher, Ionawr 2).

Roedd plismyn wedi hebrwng y ddwy i’r adeilad ar ben bryn oherwydd ei bod hi’n ddyletswydd ar yr heddlu i warchod unrhyw addolwr, waeth beth fo’u rhyw.