Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill wedi i dri o bobol gael eu canfod yn farw yn dilyn tân mewn tŷ yn ystod oriau mân Dydd Calan.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân yn Kirton ger Boston yn Swydd Lincoln, ac mae llefarydd ar ran heddlu’r East Midlands wedi cadarnhau y bydd hi’n cymryd peth amser i adnabod y cyrff yn iawn.

Er hynny, mae’r awdurodau yn credu eu bod nhw’n gwybod pwy gafodd eu llosgi, ac mae aelodau o’r teuluoedd wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel achos o lofruddiaeth domestig, a dydi’r heddlu ddim yn chwilio am neb arall.