Mae mwy o gyrff wedi cael eu darganfod yng nghanol y rwbel ar ôl i adeilad fflatiau ddymchwel yn dilyn ffrwydrad yn un o ddinasoedd Rwsia.
Mae’n golygu bod y nifer o bobol sydd wedi marw wedi cynyddu i 21 ar ôl y digwyddiad yn Magnitogorsk ddydd Llun (Rhagfyr 31).
Y gred ydi mai nwy yn gollwng o fewn yr adeilad oedd yn gyfrifol am y ffrwydrad.
Ymhlith y cyrff cafodd ei ddarganfod heddiw (Dydd Mercher, Ionawr 2) u mae merch dair oed.
Ddoe (Ionawr 1), fe gafodd babi 11 mis oed ei achub yn fyw o’r rwbel bron i 36 awr ar ôl y digwyddiad. Ond mae 2 o bobol a oedd yn byw yn yr adeilad deg llawr, yn dal i fod ar goll.