Mae llywodraeth Somalia wedi gorchymyn llysgennad y Cenhedloedd Unedig yn y wlad, i adael.
Fe ddaw’r cam wrth i nifer o bobol ofyn cwestiynau am y modd y mae cyn-ddirprwy arweinydd grwp eithafol al-Shabab wedi’i arestio, wedi iddo sefyll etholiad i fod yn arlywydd ar dalaith yn y wlad.
Mae gweinyddiaeth dramor Somalia yn cyhuddo’r llysgennad Nicholas Haysom, o fusnesu gormod ym materion diplomyddol ac o fygwth sofraniaeth y wlad, ac mae wedi’i ddatgan yn ‘persona non grata’.
Roedd y diplomydd wedi lleisio amheuon am y modd yr oedd Mukhtar Robow wedi cael ei arestio, ac reodd hefyd am gael gwybod os oedd yna heddweision sy’n cael eu hariannu a’u cefnogi gan y Cenhedloedd Unedig yn rhan o’r mater.