Mae dyn wedi’i gyhuddo o achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n beryglus, wedi i gar gael ei yrru i mewn i ystafell fyw tŷ yn Swydd Lincoln.

Fe gafodd pump o bobol eu hanafu, ac fe aeth y cerbyd ar dân, yn Dudley ar Nos Calan.

Fe gafodd swyddogion Heddlu’r West Midlands eu galw i’r digwyddiad toc cyn 11yh nos Lun, Rhagfyr 31.

Pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys, roedd y car Nissan Micra wedi gwneud ei ffordd am yn ôl trwy wal flaen y tŷ. Roedd yn rhaid i’r gwasanaethau hefyd ddelio â char Ford Fiesta a oedd wedi cael ei roi ar dân yn ystod y digwyddiad.

Roedd dyn a dynes oedrannus yn y tŷ ar y pryd, ac fe gawson nhw eu trin gan barafeddygon yn y fan a’r lle.