Mae chwech o bobol wedi cael eu lladd a 16 wedi eu hanafu mewn damwain trên ar bont yn Denmarc.
Roedd y trên yn teithio ar draws bont sy’n cysylltu ynysoedd Zealand a Funen ar wrth gludo teithwyr o ddinas Odense i Copenhagen.
Yn ôl llefarydd yr heddlu, Arne Gram, fe darodd tren Danish Railways “wrthrych anhysbys,” ac nid oedd sylw pellach.
Mae cyfryngau Denmarc wedi adrodd bod tarpolin ar drên nwyddau wedi taro trên teithwyr gan orfodi iddo stopio yn sydyn.
Fe ddigwyddodd o gwmpas 8yb heddiw (dydd Mercher, Ionawr 2) ar bont Storebaelt.