Mae Heddlu De Cymru yn dathlu hanner canrif y  flwyddyn hon ers uno pedwar o’u lluoedd i ffurfio heddlu mwyaf Cymru.

Ar y 1af o Fehefin 1969 daeth heddluoedd Merthyr Tudful, Morgannwg, Abertawe a Chaerdydd at ei gilydd a sefydlu un llu a thrawsnewid heddlu de Cymru.

Ers hynny, heddlu De Cymru yw’r llu mwyaf yn y wlad ac un o’r rhai sydd yn perfformio orau yng Nghymru.

Mae’r flwyddyn hon yn nodi pumdeg blynedd i ban cafodd y pencadlys newydd ei leoli yn hen Bencadlys Cwnstabliaeth Morgannwg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cefndir

Yn ol Gareth Madge o Ganolfan Trefradaeth Heddlu De Cymru “roedd pryderon ynghylch nifer yr heddloedd yng Ngyymru a Lloegr” yn y cyfnod cyn yr uno.

Yn dilyn pasio Deddf yr Heddlu 1964 roedd pwer gan yr Ysgrifennydd Catref i ofyn i heddluoedd uno, os nad oedden nhw’n gwneud hynny’n wirfoddol,

“Yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus, cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cartref y gorchymyn hanfodol i’r heddluoedd uno, a sefydlwyd Cwnstabliaeth De Cymru ar 1 Mehefin 19609,” meddai Gareth Madge.

“Adrodd ein stori”

“Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn edrych yn ôl ar y pum degawd diwethaf, gan ddechrau gyda diwrnodau cynnar yr heddlu ar ôl yr uniad,” dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Matt Jukes.

“Byddwn yn galw ar lawer o’n cydweithwyr presennol a’n cyn-gydweithwyr i’n helpu ni yn bersonol i adrodd ein stori.

“Mae sicrhau cyflawniadau’r rheini a fu’n gwasanaethu dros y 50 mlynedd diwethaf, a’r rhai sy’n parhau i wasanaethu heddiw, yn bwysig iawn.”