Mae pobol wedi cael eu lladd mewn damwain drên ar bont yn Denmarc yn ôl heddlu lleol, ond dydyn nhw eto ddim wedi cadarnhau faint.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar bont sydd yn cysylltu ynysoedd Zealand a Funen. Y gred ydi fod y trên wedi gorfod stopio yn sydyn wedi i darpolin oddi ar drên nwyddau arall daro’r trên wrth iddo fynd heibio o gwmpas 8yb heddiw (dydd Mercher, Ionawr 2).

Mae sianel deledu Denmarc, TV2, wedi darlledu lluniau o’r trên nwyddau a’r tarpolin oedd wedi ei rwygo yn ddarnau.

Roedd y trên teithwyr wedi gadael o ddinas Odense ar ynys Fyn.