Mae Jair Bolsonaro wedi cael ei ordeinio’n arlywydd newydd Brasil, ac mae eisoes wedi addo ail-wampio sawl agwedd ar fywyd bob dydd y wlad.
I’r cyn-gapten yn y fyddin asgell dde, mae’n cael ei ystyried yn rhywun sydd wedi codi o’r cyrion i gyrraedd yr uchel swydd.
Ef, meddai, yw gobaith pobol Brasil yn erbyn llygredd y drefn wleidyddol.
Mae Jair Bolsonaro yn gefnogwr brwd o arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ac mae wedi ennill ei etholiad trwy addo mynd i’r afael â llygredd a thrwy fod o blaid hawliau pobol i gario gynnau.
Fe ysgogodd y dyn 63 oed Ceidwadwyr a chefnogwyr asgell-dde’r wlad i’w gefnogi ar gefn pedair blynedd o reolaeth gan Blaid y Gweithwyr ar yr asgell chwith.
Jair Bolsonaro yw’r diweddaraf o nifer o arweinwyr asgell-dde ar draws y byd sydd wedi dod i rym gan greu dicter tuag at y sefydliad a gado i ymadael y drefn bresennol.
Mae’n gado brwydro yn erbyn addysg “ideoleg rhyw” mewn ysgolion, er mwyn parchu’r “traddodiad Judeo-Christnogol”, a “pharatoi plant ar gyfer y farchnad swyddi, nid milwriaeth wleidyddol.”
“Rwy’n alw war bob cyngres i’m helpu i achub Brasil rhag llygredd, troseddoldeb a chyflwyniadau ideolegol,” meddai.