Wyth mis wedi lansio cynllun newydd ar y cyd, Tai Teg, i hwyluso siawns pobol leol o sicrhau eu cartrefi delfrydol, mae deg cartref newydd ar fin cael eu cwblhau yn Llanddeusant, Ynys Môn.

Cofrestr tai fforddiadwy ar-lein newydd yw Tai Teg sy’n cynnig cartref fforddiadwy i bobl leol am bris llai na gwerth y farchnad, naill ai i’w rentu neu brynu. Ers sefydlu’r gofrestr, mae dros hanner cant o bobol wedi bod drwy’r broses o ddarganfod cartref i’w brynu neu ei rentu.

Ar safle Hen Ysgol Llanddeusant, Ynys Môn mae chwe thŷ tair ystafell wely a phedwar tŷ dwy ystafell wely bron â’u cwblhau, diolch i gefnogaeth grant Llywodraeth Cymru. Cwmni contractwyr adeiladu lleol o Gaergybi, DU Construction sydd wedi bod yn gyfrifol am y gwaith ar y safle.

“Mae galw cyson am dai fforddiadwy o fewn ein cymunedau ledled gogledd Cymru felly mae’n braf gallu buddsoddi mewn pentref fel Llanddeusant a chynnig amrywiaeth o dai ar y safle yma’n Ynys Môn,” eglurodd Dylan Roberts, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio Grŵp Cynefin.

“Mae cydweithio â chymunedau er mwyn cynnig cyfleoedd i bobol leol gael mynediad at eiddo o safon, yn gwneud ein gwaith ni’n werth chweil. Mae gwaith blwyddyn o baratoi, cynllunio ac adeiladu ar y safle yn cyrraedd ei benllanw ac mae’n braf gallu rhoi’r safle yn ôl i ddwylo pobol leol.”