Mae angen i blatfformau gwefannau cymdeithasol gymryd mwy o gyfrifoldeb i daclo gwrth-Semitiaeth a gwadwyr holocost ar-lein.
Daw yr alwad gan brif weithredwr Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost.
Fe ddylai’r ragfarn gael ei thrin yn yr un ffordd ac mae lluniau rhywiol anaddas yn cael eu trin – gyda deunydd yn cael ei ddileu yn syth.
Wrth alw ar gwmnïau mawr y rhyngrwyd i ymyrryd mwy, fe ddisgrifiodd Karen Pollock wrth-Semitiaeth ar y cyfryngau cymdeithasol fel rhywbeth “eithaf anhygoel”.
Mae hi’n yn credu bod angen i’r platfformau “gymryd mwy o gyfrifoldeb”.
“Os yw rhywun yn gwadu’r Holocost ar Facebook, mae’n cael ei gadw yno, ond os yw rhywun yn uwchlwytho llun noeth mae’n cael ei dynnu i lawr,” meddai.
Ychwanegodd bod angen i gwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol gymryd camau pellach ac ymyrryd pan mae deunydd o’r fath yn cael ei ledaenu ar eu platfformau.
Dywedodd llefarydd Facebook eu bod yn cymryd gwrth-Semitiaeth a chasineb “yn hynod o ddifrifol”, a’u bod bob amser wedi bod yn glir iawn wrth wrthod casineb.