Mae arlywydd Tsieina, Xi Jinping, wedi datgan bod angen uno Tsieina â Taiwan rŵan yn hytrach na gadael y gwaith i genedlaethau’r dyfodol.

Mewn araith wedi’i hanelu’n benodok at Taiwan fe ddywedodd bod Tsieina yn barod ar gyfer uno heddychlon, ac na fyddai yna le i fudiadau annibyniaeth yn Taiwan wrthwynebu.

Fe ymrannodd y ddwy wlad yn dilyn rhyfel cartref a arweiniodd at lywodraeth Gomiwnyddol yn Tsieina yn 1949.

Fe sefydlodd cenedlaetholwyr Taiwan eu llywodraeth eu hunain ar yr ynys tua chan milltir o dir Tsieina.

Er bod yr arlywydd Xi Jinping yn dweud bod pobol ar y ddwy ochr yn barod i atgyfnerthu perthynas heddychlon, mae’n aneglur sut y bydd ei neges yn cael ei dderbyn yn Taiwan.

Mae arlywydd Taiwan, Tsai Ing-wen, wedi ymateb ddoe (ddydd Mawrth Ionawr 1) trwy ddweud.fod ei bobol eisiau cadw’u hunanreolaeth a’u hannibyniaeth.