Mae llywodraeth Tsieina wedi cadarnhau fod cynlluniau ar droed rhyngddi hi ac America i gynnal trafodaethau ym mis Ionawr er mwym ceisio dod â’r rhyfel masnach rhwng y ddwy wlad i ben.

Mae’r ddwy ochr “wedi gwneud trefniadau penodol”  ar gyfer trafodaethau wyneb yn wyneb, ac maen nhw eisoes yn trafod dros y ffôn, meddai llefarydd Tsieina.

Fe gytunodd y ddau arlywydd, Donald Trump a Xi Jinping ar Ragfyr 1 eleni i ohirio codi’r tariffau ymhellach, gan aros 90 diwrnod a gweld sut y byddai’r trafodaethau’n datblygu.

Mae Donald Trump wedi cytuno i ddal yn ôl ar godi tâl ar werth $200bn o fewnforion o Tsieina a fydd yn cyrraedd America ar Ionawr 1

Mae Beijing wedi ymateb trwy gyhoeddi y bydd yna oedi cyn codi 25% o dreth ar geir sy’n cael ru mewnforio i Tsieina o’r Unol Daleithiau.