Mae Gogledd Corea wedi datgan na fydd yn cael gwared ar ei harfau niwclear os nad yw’r Unol Daleithiau yn gwneud hynny yn gyntaf.

Daeth y datganiad trwy Asiantaeth Newyddion Canolog Corea wrth sôn am y “diffyg dilyniant” yn y trafodaethau rhwng y ddwy wlad.

Mae hyn yn codi cwestiynau pellach dros barodrwydd arweinydd Gogledd Corea, Kim Hong Un, i gael gwared ar arfau.

Mae hefyd yn awgrymu y bydd Gogledd Corea yn mynnu bod yr Unol Daleithiau yn tynnu’r 28,500 o arfau sydd ganddyn nhw yn De Corea yn ôl.

Cafodd Kim Jong Un a Donald Trump gyfarfod ar Fehefin 12 yn Singapõr ble cynlluniwyd i gael gwared â holl arfau niwclear Corea – ond doedd dim son am sut a phryd y byddai’n digwydd.

Yn y datganiad heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 20), mae Gogledd Corea yn cadarnhau ei bod yn aros gyda’i safiad gwreiddiol ar arfau niwclear.

Maen nhw’n cyhuddo Washington o gamarwain ar yr hyn y cytunwyd arno yn Singapôr.