Mae Virgin Atlantic yn gwneud cais am orchymyn llys i atal cyfres o streiciau gan beilotiaid mewn ffrae ynglyn â bod yn aelodau o undeb.
Mae aelodau o’r Undeb Peilotiaid Proffesiynol (PPU) am gynnal streiciau dydd Sadwrn (Rhagfyr 23), a thros gyfnod Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Mae’r undeb eisiau i’r cwmni awyrennau ei gydnabod fel rhan o broses i drafod taliadau a chyfleusterau ar ran aelodau.
Yn ôl yr undeb, maen nhw’n cynrychioli traean o’r 960 peilot sydd yn gweithio i Virgin Atlantic.
Dywed y cwmni mai 16% yn unig o’i beilotiaid sydd wedi pleidleisio tros gynnal streic, gan ychwanegu y bydd y mwyafrif yn gweithio fel arfer neu’n ymgymryd â gwaith ychwanegol er mwyn sicrhau gwasanaeth.
Maen nhw wedi galw am ddwy awyren ychwanegol fydd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o gynlluniau wrth gefn os bydd atreic.