Mae dau dechnegydd mewn o orsaf wyddoniaeth America yn yr Antartig wedi marw ar ôl cael eu darganfod yn anymwybodol.
Roedd y technegwyr wedi bod yn gweithio ar systemau atal tân yng ngorsaf cwmni McMurdro ar Ynys Ross, ac fe ddaethpwyd o hyd iddyn nhw ar y llawr gan beilot hofrennydd oedd wedi glanio yno ar ôl gweld mwg yn dod o’r orsaf.
Fe lusgodd y ddau allan o’r adeilad a derbyn CPR – bu farw un yno a gafodd yr ail ei enwi yn farw ychydig ar ôl cael ei hedfan i glinig.
Roedd y ddau yn cael eu cyflogi gan gontractwr o Virginia, PAE – sy’n darparu cefnogaeth logistaidd i raglen Antartig yr Unol Daleithiau.
Mae’r marwolaethau o dan archwiliad ac mi fydd yn cael ei arolygu gan banel y Sefydliad Wyddoniaeth Genedlaethol (NSF). Ond dydyn nhw ddim yn cael eu trin fel rhai amheus.