Mae ynysoedd yn ne’r Môr Tawel wedi cael eu rhybuddio am tswnamis, ar ôl i ddaeargryn pwerus, yn mesur 7.5 ar y raddfa Richter, daro mewn rhan o’r môr ger Caledonia Newydd.

Yn ôl yr awdurdodau, roedd rhai ynysoedd, gan gynnwys Caledoni Newydd a Vanuata, yn wynebu tonnau rhwng tair i ddeg troedfedd o uchder, tra bo Fiji hefyd yn wynebu tonnau tair troedfedd.

Doedd y rhybudd hwn ddim yn cynnwys unrhyw fygythiad i ynysoedd Hawaii, medden nhw.

Mae arbenigwyr yn dweud bod y daeargryn wedi taro tua 104 o filltiroedd i’r dwyrain o Tadine yn Caledonia Newydd, ac roedd ganddo ddyfnder o chwe milltir.