Mae rhedwr yn Seland Newydd, a honnodd ei fod wedi rhedeg ar draws y wlad mewn deunaw diwrnod ac wyth awr, wedi cyfaddef iddo dderbyn lifft mewn car yn ystod rhannau o’r siwrnai.
Roedd Perry Newburn, 64, yn cael ei ystyried y rhedwr cyflymaf i redeg ar draws dwy ynys y wlad, a oedd yn daith o 1,800 o filltiroedd.
Ond ers cwblhau’r daith, a ddaeth i ben mewn tref o’r enw Bluff, mae’r rhedwr wedi cyfaddef nad oedd yn bosib iddo wneud y cyfan ar droed.
“Roedd yna rannau o’r ras lle roedd cyflwr yr heol neu bontydd yn rhy anniogel i’w rhedeg ac felly roedd yn rhaid i mi gael fy ngyrru trwy’r rhannau hyn,” meddai. “Fy mhenderfyniadau i oedd y rhain.”
Mae hefyd wedi dweud bod tywydd stormus a diffyg cwsg wedi effeithio arno yn ystod y daith.
Pwrpas yr her oedd codi arian ar gyfer elusen awtistiaeth, meddai Perry Newburn.
Hyd yn hyn, mae mwy na 7,000 o ddoleri (£3,800) wedi cael ei gyfrannu gan bron 200 o bobol.