Mae gweithwyr achub yn Syria wedi codi dros 500 o gyrff o fedd torfol ger dinas Raqqa – ac maen nhw’n dal i ddod o hyd i fwy o feirwon.

Ar un adeg, roedd y ddinas, yng ngogledd y wlad, yn arfer bod dan reolaeth y grwp brawychol, Islamic State (IS).

Mae grwpiau o achubwyr lleol yn ymgymryd â’r gwaith o godi’r cyrff, gyda phobol sydd wedi arfer gwneud y math yma o waith hefyd wrth law yn cofnodi ac yn cadw tystiolaeth a allai fod o ddefnydd wrth geisio gweithio allan be ddigwyddodd i’r meirwon ar ddiwedd eu hoes.

Mae tystiolaeth hefyd yn cael ei chasglu’n ofalus rhag ofn y bydd hyn yn arwain at achos llys am droseddau rhyfel.

Mae IS wedi’i yrru allan o Raqqa ers tua blwyddyn.

Mae beth bynnag naw bedd torfol wedi’u canfod yn ac o gwmpas Raqqa erbyn hyn. Mae’r rheiny’n cynnwys Bedd Torfol Panorama, wedi’i enwi ar ôl yr ardal lle cafodd ei gloddio a lle roedd 1,500 o gyrff wedi’u claddu.