Mae Americanwr o dras Ffrengig wedi rhoi’r gorau i’w ymdrech i nofio ar draws y Môr Tawel, wedi i storm falu un o brif hwyliau y cwch oedd yn ei gefnogi ar y daith.
Roedd Ben Lecomte eisoes wedi nofio rhyw 2,780km o’r daith 5,000km, dros hanner ffordd, ac mae wedi’i siomi’n enbyd.
“Rydan ni wedi dod wyneb yn wyneb â gwyntoedd ofnadwy, glaw a thonnau a cherrynt cryfion sydd wedi’n gorfodi ni i newid cwrs,” meddai, “a does dim posib trwsio’r difrod i’r hwyl.”
Fe gychwynnodd Ben Lecomte ar ei antur o Japan ar Fehefin 5, ac roedd yn nofio wyth awr y dydd, ar gyfartaledd.
Mae’r nofiwr a’r cwch wrthi’n gwneud eu ffordd yn ara’ deg i Hawaii ar hyn o bryd.