Mae pedwar Cristion o’r Ffindir wedi cael eu gwahardd o Malaysia ar ôl iddyn nhw gael eu carcharu am ddosbarthu deunydd Cristnogol ar ynys wyliau.

Fe gafodd y ddwy ddynes a’r ddau ddyn, rhwng 27 a 60 oed, eu harestio ar Dachwedd 20 yn eu gwesty ar ynys Langkawi.

Yn ôl yr heddlu lleol, cafodd y pedwar eu trosglwyddo i’r Swyddfa Fewnfudo yn dilyn penderfyniad gan erlynwyr cyhoeddus i’w hallgludo.

Maen nhw hefyd wedi cael eu gwahardd rhag dychwelyd i’r wlad, medden nhw, ac mae swyddfa’r Twrne Gyffredinol wedi anfon llythyr at lysgenhadaeth y Ffindir yn nodi ei anfodlonrwydd â’u hymddygiad.

Mae ceisio trosi Mwslemiaid, sy’n cynrychioli dwy ran o dair o boblogaeth Malaysia, yn anghyfreithlon yn y wlad, er bod y gwrthwyneb yn cael ei dderbyn.