Mae pobol dwyrain Indonesia a heidiodd i weld bol morfil marw a gafodd ei olchi i’r lan, yn dweud bod ei stumog yn cynnwys 115 o gwpanau plastig, a dwy fflip fflop.
Mae swyddogion Parc Cenedlaethol Wakatobi yn dweud fod y corff 31 troedfedd wedi’i ganfod ar draeth ger Kapota yn nhalaith Sulawesi ddoe (dydd Llun, Tachwedd 19).
Ar ôl archwilio’r carcas a’i bwyso, roedd 13 pwys o sbwriel yn ei ymysgaroedd, yn cynnwys y cwpanau plastig, pedair potel blastig, 25 bag plastig, fflip-fflops, sach neilon, a mwy na mil o eitemau plastig eraill.
Mae disgwyl i’r corff gael ei gladdu heddiw, heb gynnal prawf post mortem.