Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu yn cynnal trafodaethau brys i geisio achub llywodraeth glymblaid y wlad.
Dywed mai dyma ei “ymgais olaf”, yn dilyn anghydfod sydd wedi arwain at ymddiswyddiad Gweinidog Amddiffyn y wlad, Avigdor Lieberman tros gytundeb cadoediad â gwrthryfelwyr o Gaza.
Mae Benjamin Netanyahu wedi wfftio’r posibilrwydd o gynnal etholiad cyffredinol pan fo’r wlad mewn cyflwr mor fregus.
Yn hytrach, mae’n gobeithio dwyn perswâd ar y Gweinidog Cyllid Moshe Kahlon a phlaid Kulanu i aros yn rhan o’r llywodraeth glymblaid.
‘Di-angen ac anghywir’ cynnal etholiad
“Y peth di-angen ac anghywir fyddai cynnal etholiad,” meddai Benjamin Netanyahu, gan ofidio am ddyfodiad Plaid Lafur y wlad i rym.
“Cofiwn yn iawn beth ddigwyddodd pan wnaeth elfennau o fewn y clymbleidiau dynnu llywodraethau Likud i lawr yn 1992 ac yn 1999.
“Mae angen i ni wneud popeth allwn ni er mwyn osgoi ailadrodd y camgymeriadau hyn.”
Cefndir
Cyn ymddiswyddo’r wythnos ddiwethaf, roedd Avigdor Lieberman yn galw am ymateb llawer cryfach i’r ymosodiadau roced gwaethaf ar Israel ers 2014.
Mae’n dadlau y bydd cadoediad yn peryglu de Israel yn wyneb Hamas.
Yn dilyn ei ymddiswyddiad, mae gan y llywodraeth glymblaid fwyafrif o un sedd yn unig yn y senedd ac mae rhybudd y gallai’r sefyllfa honno ei gwneud yn haws i lwgrwobrwyo unigolion er mwyn denu eu cefnogaeth.
Does dim disgwyl etholiad cyffredinol yn y wlad tan ddiwedd y flwyddyn nesaf.