Mae lori Nadoligaidd Coca-Cola yng Nghaerdydd am yr ail waith heddiw (dydd Sul, Tachwedd 18) wrth iddi barhau â thaith drwy wledydd Prydain.
Mae cyfle i bobol ymweld â’r cerbyd enwog ar Stryd y Frenhines rhwng canol dydd ac 8 o’r gloch heno.
Ar ôl heddiw, fe fydd cyfle arall i’w gweld yng Nghymru ddydd Mercher, pan fydd yn teithio i Tesco yn Llansamlet ger Abertawe, ac eto ddydd Mawrth, Rhagfyr 11 yn Queensferry, Sir y Fflint.
Fe ddaeth y lori i sylw’r byd yn 1995 yn sgil hysbyseb Nadoligaidd y cwmni diodydd.
Yn ystod y taith, mae’r cwmni’n tynnu sylw at fanteision ailgylchu fel rhan o ymgyrch Byd Heb Wastraff.