Mae NASA wedi cadarnhau bod eu llong ofod, Parker Solar Probe, wedi torri record o ran ei phellter o’r Haul.

Mae’r llong wedi mynd heibio’r record o 26.6 miliwn o filltiroedd gan Helios-2 yn 1976.

Mi fydd y Parker Solar Probe yn parhau i deithio’n agosach i’r Haul tan mae’n hedfan trwy’r corona, neu’r atmosffer allanol, am y tro cyntaf yr wythnos nesaf.

Mae’n golygy y bydd yn pasio o fewn 15 miliwn o filltiroedd i wyneb yr Haul.

Mae NASA yn edrych i gael Parker i wneud 24 o deithiau agos at yr Haul dros y saith mlynedd nesaf, gan ddod o fewn 3.8 miliwn milltir i’r Haul erbyn diwedd yr ymgyrch.