Mae Theresa May wedi wfftio awgrymiadau bod y Gyllideb ddoe yn arwydd bod etholiad cyffredinol ar y ffordd.

Yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe, fe gyhoeddodd y Canghellor, Philip Hammond, fod y cyfnod o lymder yn “tynnu tua’r terfyn”, a’i fod yn gobeithio y bydd ei Gyllideb yn arwain at “ddyfodol mwy llewyrchus” i wledydd Prydain.

Mewn cynhadledd i’r wasg yn Oslo heddiw, mae Prif Weinidog Prydain wedi cefnogi’r Gyllideb, gan wadu ei fod yn ymgais i baratoi ar gyfer etholiad cyffredinol.

“Nac ydym, dydyn ni ddim yn paratoi am etholiad cyffredinol arall,” meddai. “Fyddai hynny ddim o ddiddordeb cenedlaethol.”

Wrth siarad ar raglen Good Morning ar ITV y bore yma, fe fynegodd Philip Hammond yr un neges, gan ddweud nad yw etholiad ar y bwrdd ar hyn o bryd.

“Rydym ni’n paratoi ar gyfer dyfodol gwledydd Prydain,” meddai. “Rydym bellach wedi troi cornel ac yn medru rhoi ychydig o newydd da.”