Mae disgwyl i’r cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas, ymddangos gerbron Llys Ynadon y Wyddgrug yfory (Hydref 31).

Mae’r gŵr 54 oed a fu’n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd, a chyn hynny’n Aelod Seneddol tros Geredigion, eisoes wedi pledio’n euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.

Fe ymddangosodd gerbron Canolfan Gyfiawnder Aberystwyth ddechrau’r mis (Hydref 3), pan blediodd yn euog o greu 150 o ddelweddau Categori A, 103 o ddelweddau Categori B, a 359 o ddelweddau Categori C.

Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.