Mae cannoedd o weithwyr cwmni tacsis Uber wedi ymgynnull tu allan i Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol yn Llundain o flaen gwrandawiad apêl Uber heddiw (Hydref 30).

Mae’r achos yn ymwneud â statws gyrwyr Uber ble mae gofyn i yrwyr gael eu trin fel gweithwyr yn hytrach nag fel pobol hunangyflogedig.

Dywedodd cadeirydd Tŷ’r Cyffredin dros weithwyr a phensiynau, Frank Field, bod gweithwyr wedi “cael digon” o apeliadau parhaol Uber.

Hwn yw’r cymal diweddaraf yn yr achos sydd wedi bod mynd ers Hydref 2016, ble enillodd dau yrrwr tribiwnlys cyflogaeth.

Annheg

Mae Frank Field yn credu bod yr achos yn annheg gyda chwmni Uber yn ei ymestyn gydag apeliadau gan nad yw gyrwyr yn “gallu ei fforddio” a bod y cwmni yn “ddigon cyfoethog i’w leoli ei hunain uwchben yn gyfraith”.

Mae Uber wedi colli dau achos llys yn barod, ac maen nhw’n ymladd y tro hwn tros beidio gorfod talu isafswm cyflog a thâl gwyliau a phensiynau i yrwyr sydd yn gweithio iddyn nhw.”