Mae nyrs, sydd eisoes wedi derbyn oes o garchar am ddau achos o lofruddiaeth, yn cael ei gyhuddo o ladd 100 o gleifion yn ychwanegol mewn dau ysbyty cyfagos yn yr Almaen.

Mae’r cyhuddiadau ychwanegol hyn yn erbyn Niels Hoegel, 41, yn deillio o’i gyfnod yn gweithio mewn dau ysbyty yng ngogledd-ddwyrain yr Almaen rhwng 1999 a 2005.

Cafodd ei ddedfrydu i oes o garchar yn 2015 am ddau achos o lofruddiaeth a dau achos o geisio llofruddio.

Yn ystod yr achos hwnnw, dywedodd ei fod wedi achosi ataliad y galon i fwy na 90 o gleifion yn yr ysbyty yn Delmenhorts oherwydd ei fod yn cael ias o’u hailfywiogi. Dywedodd wedyn ei fod hefyd wedi lladd cleifion yn Oldenburg.

Arweiniodd hyn at yr awdurdodau’n ymchwilio i achosion marwolaeth cannoedd o bobol, gan godi rhai cyrff o’r bedd.

Yn ôl yr heddlu, pe bai swyddogion iechyd lleol wedi rhoi gwybod iddyn nhw am Niels Hoegel yn syth, fe allai fod wedi cael ei atal ynghynt.

Mae’r awdurdodau yn ceisio dwyn achosion yn erbyn cyn-weithwyr o fewn y ddau ysbyty.