Mae’r Unol Daleithiau yn anfon 5,200 o filwyr i warchod y ffin â Mecsico, wythnos yn unig cyn bod etholiadau hanner-tymor yn cael eu cynnal yn y wlad.

Yn ystod ei ralïau, mae’r arlywydd Donald Trump wedi bod yn rhoi pwyslais mawr ar fater y ffoaduriaid sy’n ceisio cael mynediad i America trwy Mecsico – gan gyfeirio’n benodol at filoedd sy’n cerdded pob cam o Hondwras ar hyn o bryd.

Mae nifer y milwyr sy’n cael eu hanfon i’r de-orllewin i amddiffyn y llwybr o Mecsico, yn ddwbwl y 2,000 o filwyr sydd yn Syria yn ymladd IS.

Yn ôl Donald Trump, mae’r ffoaduriaid yn “ymosod” ar yr Unol Daleithiau, ond mae’n addo y bydd yn codi “dinasoedd o bebyll” ar eu cyfer nhw.

“Fe fydd y pebyll yn llefydd braf iawn, ac yn rheiny y  byddan nhw’n aros i weld os y cân’ nhw ddod i fyw yma. Os nad ydyn nhw’n cael dod i fewn, yna fe fydd yn rhaid iddyn nhw adael.”