Mae gwraig o wledydd Prydain wedi cael ei chyhuddo o lofruddio ei gwr, wedi i’w gorff gael ei ganfod wedi’i drywanu yn eu cartref yn ynys Langkawi yn Malaysia ar Hydref 18.

Fe ddaeth yr heddlu hefyd o hyd i gyllell waedlyd yn lle’r oedd Samantha Jones, 51, yn byw gyda’i gwr, John William Jones, 62.

Mae’r heddlu yn dweud i Samantha Jones gyfaddef i drywanu ei gwr yn ei frest yn ystod ffrae danllyd.

Roedd y cwpwl wedi symud i’r ynys 11 mlynedd yn ôl, dan gynllun ail gartref a oedd yn rhoi fisas tymor hir i dramorwyr.

Fe fydd Samantha Jones yn ymddangos gerbron yr Uchel Lys yn Malaysia ar Dachwedd 29 wedi’i chyhuddo o lofruddiaeth. Bryd hynny, fe fydd disgwyl i’r erlyniad gyflwyno tystiolaeth yn cynnwys canlyniad y post mortem, profion fforensig ac adroddiadau eraill.

Mae pobol sy’n cael eu dyfarnu’n euog o lofruddiaeth yn Malaysia fel arfer yn cael eu dedfrydu i farwolaeth. Ond mae llywodraeth y wlad yn bwriadu dileu’r gosb eithaf ar gyfer pob trosedd.