Mae gwyntoedd mawr a glaw trwm o seiclôn Luban wedi effeithio 2,000 o deuluoedd yn Yemen.
Mae 33 o bobol wedi’u hanafu yn y stormydd mewn gwlad sydd eisoes wedi’i darnio gan ryfel yn ystod y degawd diwethaf.
Mae’r tywydd wedi achosi difrod mawr i dai, i bontydd a cheblau trydan yn ardaloedd yr arfordir yn nhalaith Al Mahra.
Mae’r Cenhedloedd Unedig eisoes wedi anfon gweithwyr yno i helpu gyda’r gwaith dyngarol.
Ar hyn o bryd, mae’r awdurdodau yn dweud mai’r flaenoriaeth yw achub tua 50 o deuluoedd sy’n sownd o ganlyniad i lifogydd, ac y bydd angen eu codi oddi yno gan ddefnyddio hofrennydd.