Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth, wedi cyfres o bump lladrad yn Sir Benfro.
Y gred ydi eu bod nhw wedi digwydd rhwng 8yh nos Sul, Medi 30 yn Solfach ac ardal Tyddewi. Fe gafodd arian parod, gemwaith a ffôn symudol eu dwyn.
Mae tyst wedi adrodd am weld dyn yn gwisgo trowsus tracwisg yn yr ardal ar y pryd, a’i fod yn teithio mewn car bach lliw arian.
Mae dyn, 32, a dynes, 39, o Gaerdydd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o fwrgleriaeth. Mae’r wraig wedi cael ei rhyddhau dan ymchwiliad tra bod y dyn wedi cael ei anfon yn ei ôl i’r carchar am drosedd arall.
Mae’r ymchwiliad i’r achosion o ddwyn yn Sir Benfro yn parhau.